Daeth yr ysbrydoliaeth i greu'r nwyddau yma o fy angerdd i gynnal iechyd drwy ddull holistig a naturiol, gan ddefnyddio pŵer aromatherapi i wella iechyd a lles.
Mae aromatherapi yn ffordd draddodiadol a holistig o wella, gan ddefnyddio darnau botanegol ar ffurf olewau hanfodol.
Mae hyn yn helpu i wella a chydbwyso iechyd y meddwl, y corff ag ysbryd.
Mae'r casgliad gwreiddiol o ganhwyllau Ynys Aroma wedi'i ysbrydoli gan yr harddwch mewn natur sy'n amgylchynu ein cartref gan yr arfordir ar Ynys y Barri.
Cymerodd rai o'r ryseitiau olew hanfodol a ddefnyddir yn y nwyddau fisoedd i'w creu, nosweithi di-ddiwedd o gymysgu a phrofi i ddod o hyd i'r cyfuniad perffaith.
Gwneir yr holl gynnyrch gan ddefnyddio olewau hanfodol gradd therapiwtig, mae hyn yn helpu i greu cynnyrch sy'n arogli'n fwy naturiolyn y cartref.
Wedi'r cyfan, pam defnyddio persawr synthetig pam fod natur yn arogli mor hyfryd?
No Product