Het lydan llwyd tywyll, wedi ei blocio gyda llaw o ffelt gwlan yng ngweithdy Madog Millinery. Gyda band geometrig a cord lledr brown o gwmpas y canol, a brodwaith yn addurno’r het. Mae ffedoras Madog wedi eu hysbrydoli gan liwiau ym myd natur, mynyddoedd a choedwigoedd, teithio’r byd a gwylio’r sêr.
Mae’r fedoras yn cael eu gwneud ‘to order’ a gall hyn gymeryd o gwmpas 10 diwrnod gwaith. Cysylltwch os oes angen yr eitem ar gyfer diwrnod penodol.
Bydd archebion sydd yn cael eu gyrru mewn parseli mawr (hetiau fedora) angen llofnod wrth gael eu derbyn.
Gwnaed a llaw gan Madog Millinery
Reviews
There are no reviews yet.