Bestseller Products

Shop more
Filter Products Showing all 7 results
Categoriau
SIOPAU
DIDOLI YN ÔL
PRIS
  • £18.00

    Mae’r bag canfas yma wedi’i wneud o ddeunydd sydd wedi’i ailgylchu (wipiiii) ac yn hynod feddal! Mae’r celf ar y blaen yn eich hatgoffa i checio eich bŵbs – sy’n cydfynd gyda’r 20% o bob gwerthiant fydd yn mynd i tenovus Cymru i’w cefnogi yn ystod mis codi ymwybyddiaeth cancr y fron

    Gwerthwyd gan: HIWTI

  • Clear
    £10.00£17.00

    Sgetsh o gorff ar bapur. Wedi’i greu gyda inc ar bapur trwchus. Dewiswch eich maint – A5, A4 neu A3 ac fe dderbyniwch brint o fy llaw rydd i! Anfonwch neges yn i marigwenllian@hiwti.com os oes gennych syniad mwy penodol mewn meddwl.

     

    Gwerthwyd gan: HIWTI

  • Clear
    £21.00

    Mae’r crys T yma mor feddal a chyfforddus! Mae llewys hir a cuffs ar eu diwedd mewn lliw gwyrdd khaki. Mae tair corff yn gwisgo crysau T llewys hir a nics blodeuog wedi’u sgrîn brintio ar y blaen mewn pinc golau. Y crys T perffaith i ddathlu’r Gwanwyn!

    Amcangyfrif bras o’r meintiau :

    • S : 8-10
    • M : 12-14
    • L : 14-16
    • XL : 16-18
    • XXL : 18-20

    Gwerthwyd gan: HIWTI

  • Clear
    £30.00

    Hwdi cynta HIWTI! Dyma fe, mewn du just i gyd-fynd gyda hwylie pawb ar hyn o bryd… Hwdi unrhywiol ddu gyda llinyn tynnu (pull string), hood â haenen ddwbl a phoced ar y blaen. Mae noethlun flaen bach ar y blaen mewn inc binc a noethlun cefn fawr dros y cefn – hefyd mewn pinc golau. Mwynhewch eich hwdis mooody!

     
    Gwerthwyd gan: HIWTI

  • Clear
    £45.00£200.00

    Mae pob canfas wedi’i wneud i archeb, gan gynnwys y maint a lliwiau, yn arbennig i’ch anghenion chi, i siwtio’r union fan sydd angen ei lenwi â chelf haniaethol. Mi fydd clip ar gefn y canfas er mwyn ei hongian yn hawdd! Os hoffech drafod unrhywbeth – megis y lliwiau, neu anfon llun o syniadau neu’r fan fydd y celf yn cael ei arddangos, ebostiwch marigwenllian@hiwti.com.

    Gwerthwyd gan: HIWTI

  • £50.00

    Mae pob broc wedi’i wneud i archeb. Dyma restr o’r pethau sydd angen eu gwybod er mwyn creu broc personol i chi.

    Nodwch yn pethau isod yn y blwch ‘Manylion’;

    ❤︎ Amlinell o ba wlad / wledydd hoffech chi
    ❤︎ Côd post o ble hoffech galon (Hyd at 7 calon yn bosib)
    ❤︎ Patrwm edau – Syth neu zig zag (Os oes mwy na 2 galon bydd rhaid defnyddio patrwm zig zag)
    ❤︎ Lliw edau – unrhyw liw yn bosib!
    ❤︎ Unrhyw nodiadau eraill hoffwch ychwanegu

    Gwerthwyd gan: HIWTI

  • £40.00

    Mae pob broc wedi’i wneud i archeb.
    Dyma restr o’r pethau sydd angen eu gwbod er mwyn creu broc personol i chi.
    Nodwch yn pethau isod yn y blwch ‘Manylion’.
    ❤︎ Côd post o ble hoffech galon (Hyd at 5 calon yn bosib)
    ❤︎ Patrwm edau – Syth neu zig zag (Os oes mwy na 2 galon bydd rhaid defnyddio patrwm zig zag)
    ❤︎ Lliw edau os hoffech unrhywbeth ond gwyn
    ❤︎ Unrhyw nodiadau eraill hoffwch ychwanegu.

    Gwerthwyd gan: HIWTI