Rydw i (Llinos) a fy nghariad Llŷr yn byw yn Nhrelluest (Grangetown), Caerdydd. Rydyn ni wastad wedi cael breuddwyd o sefydlu cwmni creu canhwyllau ond oherwydd pwysau gwaith a bywyd prysur yn y ddinas, doedden ni erioed wedi cael cyfle i droi’r freuddwyd yn realiti. Newidodd popeth ar ddechrau cyfnod clo 2020 pan ddaeth saib ar fywyd ac fe gawson ni’r cyfle arbennig i ddatblygu’n syniadau a’u troi yn realiti!
Ar ôl treulio amser hir y cyfnod clo ymhell o’n cartrefi yn hiraethu am ein teuluoedd, fe ddaeth yn amlwg pa mor bwysig oedd ein Milltir Sgwâr i ni fel cwpwl. Gyda hynny, penderfynon ni greu canhwyllau gan ddefnyddio arogleuon sy’n ein hatgoffa ni o’r llefydd sy’n bwysig i ni ac yn ein hatgoffa o anuriaethau arbennig.