Sefydlwyd Matico gan Mati sy'n byw yng Nghaerdydd. Gweithiodd hi fel nyrs yn Llundain am nifer o flynyddoedd, ac, yn ystod y cyfnod hwn, cafodd y cyfle i fynd i ddarlithio a gweithio yn Somaliland a Ghana. Roedd hyn yn brofiad gwefreiddiol a hynod o ddiddorol.
Tra yn Ghana, fe ddisgynodd hi mewn cariad gyda lliwiau llachar a phatrymau trawiadol y ffabric a oedd yn cael ei gynhyrchu'n lleol.
Breuddwyd Mati yw bod ei busnes yn gallu helpu gyda prosiectau tramor ac ym Mhrydain. Y cyntaf yw ysgol fe sefydlwyd yn 2018, yn Accra, Ghana.
Trwy brynu gwaith Matico, rydych yn cefnogi swyddi a thraddodiadau, tra’n helpu ariannu datblygiad yr ysgol yn Ghana, efo’r gobaith bydd y plant yn cael rhai o’r cyfleoedd rydyn ni mor lwcus i'w cael yma ym Mhrydain.