Croeso i gyfres blog newydd Anni : Cwrdd a’r Gwerthwr! Ac i ddathlu Sul y Mamau, ni am lansio gyda Sara, perchennog cwmni Shnwcs!

Mae Shnwcs yn dylunio a gwerthu casgliad o anrhegion modern i fabi’s newydd sy’n cynnig rhywbeth gwahanol i’r anrhegion arferol fel babygrows! Yn ogystal ag anrhegion fab i famau newydd!

O le daeth enw’r cwmni?

Roedd ‘shnwcs’ yn enw o’dd dad yn galw arnai pan oni’n fach. Dyw e ddim rili’n golygu dim byd penodol, jyst enw bach cariadus  – fel ti’n iawn ..‘pwt?’ Fi’n credu mai o ochre Sir Gaerfyrddin ma’ ‘shnwcs,’ yn dod, sef yr ardal lle gafodd dad ‘i fagu.  O’dd e’n neud sens defnyddio’r enw achos o’dd hi’n unigryw, yn bersonol i fi, yn siwtio’r ffaith bo’ fi’n gwerthu cynnyrch i fabi’s bach, ac yn hawdd i’w weud.

Beth oedd y 'driving force' tu ol dechrau’r busnes?

Ma’ hwn yn hawdd i’w ateb. Driving force tu ol y cwmni oedd oni ishe Cardiau Camau Cyntaf Cymraeg i ddefnyddio gyda babi fy hun! Doedd dim rhei o gwbl yn y Gymraeg, ac felly bwlch amlwg yn y farchnad. Tra ar gyfnod mamolaeth gyda Steffan, a’th fy ffrind Debbie (sy’n ddylunydd graffeg) a fi ati i greu pecyn, a’u dechrau gwerthu nhw’n lleol.

Noda rhywbeth fydden ni byth yn gwybod amdanat ti/chi?

Oni arfer gweithio i gwmni teledu a bues i’n ddigon lwcus o gael cynhyrchu rhaglen yn dilyn ‘male model’ Cymraeg mewn sioeau ffasiwn yn Efrog Newydd.  Profiad anghrhedadwy fyddai’n cofio am byth … yn ogystal a’r hangover waetha EVER.

Eglura mwy am dy broses creu?

Rwy’ wrth fy modd gyda ffasiwn, interiors, ac felly o hyd yn dwli edrych ar liwiau a trends ar Instagram, mewn cartrefi, cylchgronnau ayyb. Fi’n casglu mood boards at eu gilydd a bob tro fel rheol yn creu cynnyrch fydden i eisiau defnyddio neu roi lan yn fy nghartref fy hun (ac ma nhw!).

Fi’n defnyddio ‘felt pens’ y plant(!) ac yn llunio sketches bach dodji o’r hyn sy’n fy mhen, a’r geiriad, a’u hanfon ymlaen at Debbie fy ffrind. Mae hi’n ddylunydd graffeg sydd yn roi’r sketch at eu gilydd. Dwi wedyn yn mynd nol a ‘mlaen degau o weithiau ati yn newid manion bethau.

Dimond pan fi’n gwbwl hapus, y ‘stage’ olaf yw anfon y dyluniad at ‘pool’ bach o ffrindiau (rwy’n trustio, ac sy’n famau) i gymeradwyo’r geiriad, lliwiau, pris ayyb.

Pa gyngor fyddet ti’n ei gynnig i rywun sy’n cychwyn busnes eu hunain?

Y cyngor ore gallen i gynnig yw i nabod dy gynulleidfa. Fi’n gwbod bod hwn siwr o fod yn cael ‘i weud yn aml, ond wir, hwnna yw’r peth mwya pwysig yn fy marn i. Nid yn unig o ran y dyluniad, ond hefyd y ffordd wyt ti’n hyrwyddo. Ma’r math o gerddoriaeth, content, hashtags, amser rhannu/postio, brandio, pwy wyt ti’n ddilyn.. ayyb yn effeithio ar sut gelli di gyrraedd y gynulleidfa. Yr ail gyngor fydden i’n rhoi yw i drio ffeindio ffordd o roi personoliaeth i dy fusnes. Mae dilynwyr bellach yn hoffi gwbod pwy sydd tu ol i’r cynnyrch/brand, felly bydd yn barod i rannu ryw elfen o ti dy hun (dy ddiddordebau? Yr hyn sy’n gwneud i ti deimlo’n angerddol? Dy ofidiau? Chydig ar y broses creu gyda’r cynnyrch?). Mae’n help mawr i gryfhau’r engagement gyda dy gynulleidfa a gwneud i ti sefyll mas o’r crowd.

Beth wyt ti mwya prowd ohono ers cychwyn y busnes?

Fi’n browd iawn mai Shnwcs wnaeth greu’r cardiau ‘milestones’ cynta erioed yn y Gymraeg. Fi hefyd yn browd ofnadw bod siop John Lewis  wedi gofyn i shnwcs addurno eu hystafell newid/bwydo gyda’n prints i, ac mae’n enw i lan ar y wal yno yn un o siopau mwyaf y brif ddinas.

Beth ti’n neud pan nad wyt ti’n creu/gweithio ar Shnwcs?

Fi’n credu bod ambell un yn meddwl mai shnwcs yw fy swydd i. Ond yn gwir yw mai mam llawn amser ydw i. Dydy Iestyn (fy ngwr) braidd byth adre oherwydd oriau hir ‘i swydd e, felly yr unig gyfle rwy’n cael i wneud unrhywbeth ar shnwcs yw ar ol i’r plant fynd i’r gwely gyda’r nos ac ar ol i fi sortio’r ty! Felly literally, rhwng 21.00-22.00 y nos!

Beth yw dy hoff beth di am fod yn Gymro/Gymraes?

Waw, lle i ddechre? Yr iaith, a’r teimlad o berthyn. Mae’r perthynas rhwng ni’r Cymry yn un arbennig a gwerthfawr iawn iawn. Fi’n aml yn teimlo agosatrwydd at berson arall (weithiau yn ddieithryn) jyst oherwydd ma’r ddou o ni’n siarad yr iaith.

Ma’n deimlad lyfli gallu cyfrannu a chreu cynnyrch yn y Gymraeg, a gwbod bod cannoedd o Gymry Cymraeg yn hoffi dy waith di ddigon i’w roi lan yn eu cartrefi.