Am y flwyddyn dwetha’, ma’n bywyde ni gyd di cael eu troi ben ei waered – ac mae Mame di bod yna bob cam o’r ffordd.
Blwyddyn gyfan o mytro FFS dan ein hanadl, delio da’r tantryms, gwisgo ein ‘loungewear’, gweithio o adre’, bod yn weithiwr allweddol, dysgu’r plant adref, cuddio yn y car neu’r garej i gael munud o heddwch, llefen i’ch rhieni dros facetime…mae ‘di bod yn anodd! Felly eleni… gwna Sul y Mamau 2021 yn un i’w chofio.
Felly, os wyt ti’n pendroni beth i gael i dy Fam, dy Llys Fam, Mamgu, Nain neu hyd yn oed i ti dy hun, na phoener…Ni di creu rhestr o goreuon Anni i’ch helpu chi!
Cofia bod modd danfon dy anrheg yn syth at dy Fam. Rho ei chyfeiriad yn y blwch cyfeiriad cludo ac mi fydd dy anrheg yn cael ei ddanfon yn syth iddi!
1. Canhwyllau Milltir Sgwâr
Un o eitemau mwyaf poblogaidd Anni, yn ogystal â un o’n ffefrynau ni. Sefydlodd Llinos a Llyr, sy’n byw yn Grangetown, Caerdydd, eu busnes newydd yn ystod y cyfnod clo yn 2020, ac mae’r busnes yn mynd o nerth i nerth, yn creu casgliad o ganhwyllau gydag aroglau anhygoel.
Pam fod canhwyllau Milltir Sgwâr yn gwneud anrheg da? Mae’r pwyslais ar y lleoliad – “Milltir Sgwâr”, mae pob un o’u canhwyllau yn cynrychioli ardal yng Nghymru a dyna sy’n ysbrydoli’r aroglau maent yn creu.
2. Ategolion Madog Millinery
Erin yw’r cynllunydd tu ôl i hetiau Madog. Cafodd ei magu yng nghanol mynyddoedd Ffestiniog, ac erbyn hyn mae hi’n cynllunio a’n gwneud yr hetiau yn ei gweithdy yng Nghaerdydd.
Gyda chefndir mewn cynllunio gwisgoedd a sets ar gyfer cynhyrchiadau theatr, penderfynodd Erin arbenigo mewn penwisgoedd tra ar daith gyda sioe yn Llydaw. Datblygodd y cynlluniau cyntaf tra fu’n byw yn Japan, ac yna yn 2017 cafodd Madog Millinery ei lawnsio.
Mae nifer o’r darnau wedi eu hysbrydoli gan wahanol deithiau, tirwedd y mynyddoedd a’r coedwigoedd, a gwylio’r sêr ar lan y môr. Maent wedi eu gwneud i’r rhai sy’n chwilio am antur!
No Product
3. Siwmper Gwenu gan SMEI
Yn wreiddiol o Ben Llŷn, mae Sioned bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Hoffai greu gwaith sydd yn cyfleu neges arbennig, ysbrydoledig, ac hefyd darnau sydd yn ysgogi positifrwydd a theimladau calonogol.
Be well nag anrheg unigryw SMEI ar Sul y Mamau,
No Product
4. Clustdlysau Flo coch a pres gan Matico
Mae stori Matico yn un arbennig iawn a ry’n ni’n falch iawn o fedru gynnwys rhai o’i heitemau ar Anni. Cafodd Mati ei hysbrydoli tra’n gweithio fel nyrs yn Ghana, lle wnaeth hi syrtho mewn Cariad gyda lliwiau a phatrymau y ffabrig a gynhyrchwyd yn lleol. Mae Matico yn defnyddio’r arian a wneir gan y busnes i gefnogi prosiectau tramor ac yn y DU, gan gynnwys ysgol yn Ghana.
Mae’r clustdlysau unigryw yma yn defnyddio ffabrig o Ghana, a byddan nhw’n edrych yn ffab yng Nghaerdydd ac yn Accra!
-
£22.00 – £28.00
5. Bag Colur gan Nia Rist
Mae Nia yn argraffydd sgrin ac yn ddylunydd tecstilau yn Abertawe, sy’n arbenigo mewn nwyddau cartref ag ategolion monocrôm sydd wedi’u hargraffu â llaw!
Byddai’r bagiau colur yma yn berffaith i gadw trefn ar y lipstic a blusher yn barod ar gyfer y cocktails wedi’r cyfnod clo!
-
£12.00 – £16.00
6. Gin gan Cadi Newbery
Dy nhw ddim yn galw e’n “Mother’s Ruin” am ddim byd!
Wedi astudio gradd Crefftau Cyfoes ym Mhrifysgol Falmouth, mae Cadi wedi’i hysbrydoli gan siapiau geometrig, a lliwiau cynnes. Mae hi hefyd yn joio Gin! Fydde’r print yma yn gartrefol iawn mewn sawl cartref!
-
£20.00
7. Rheolau'r Cartref gan Shnwcs
Mae babis yn cael yr holl sylw … wel, dyma rywbeth i Mam.
Dyma rheswm Sara – perchennog Shnwcs, dros sefydlu’r cwmni.
Anrhegion gwahanol i’r arfer, ac mae’r printiau Cymraeg yma yn boblogaidd iawn!
-
£10.00
8. Gingham Drops gan Clai
Mae Clai yn creu gemwaith serameg unigryw wedi eu gorffen gyda llaw.
Mae pob eitem yn “one of a kind” ac yn boblogaidd iawn, felly peidiwch ag oedi os y chi’n llygadu rhywbeth yng nghasgliad Clai.
No Product
9. Hŵps Calonnau Gwenog gan Maggie Cross
Mae Maggie yn gemydd annibynnol sy’n gweithio yng Ngorllewin Cymru. Mae hi’n creu gemwaith arian syml a dyluniadau hwyliog i’w gwisgo bob dydd.
Mae casgliad Maggie o emwaith hapus yn gwneud iti deimlo’n hapus dy fyd!
No Product
10. Tocyn Anrheg Anni
Os dy’ch chi dal methu dewis anrheg, be am adael i Mam siopa gyda Tocyn Anrheg Anni!