Fel pobl sy’n angerddol am grefft, dylunio a chynnyrch hardd, ry’ ni am weithio gyda, ac hyrwyddo gwneuthurwyr sy’n torri tir newydd yng Nghymru.
Yn ystod y cyfnod clo, daeth gwerthu arlein yn fwy pwysig nag erioed i fusnesau annibynnol. Felly crewyd Anni, marchnad arlein, wedi’i churadu, lle fedri di brynu’n uniongyrchiol wrth fusnesau cyffrous, artistiaid a gwneuthurwyr annibynnol, ac i gyd o Gymru.
Ein nod yw bod yn blatfform os wyt ti’n chwilio am rywbeth ychydig yn wahanol, nad oeddet ti’n sylweddoli bod ei angen e arnat ti (na dy feed instagram), gan wneuthurwyr o Gymru, i gyd o dan yr un to (rhithwir)!
Ni’n gobeithio y byddi di’n caru’r busnesau yma, cymaint â ni!